Video Welsh

Efallai na fydd rhai o’r negeseuon yn ‘newydd’.

Dyna pam rydyn ni’n eu galw nhw’n adnoddau i ‘ystyried eich ffordd o feddwl’.

Efallai eu bod yn cyd-fynd â’ch safbwyntiau eisoes, a gallent gyflwyno rhai heriau.

Gallwch ddefnyddio’r deunyddiau i’ch helpu i’ch cefnogi yn eich gwaith trwy fyfyrio ar eich dealltwriaeth a’ch arferion.

Gallwch eu defnyddio gyda’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw er mwyn dysgu a thrafod ar y cyd.

Mae’r rhan y byddwch chi’n ei chwarae wrth ddiogelu a chefnogi person ifanc yn dibynnu ar eich rôl a’ch perthynas â pherson ifanc.

P’un a ydych chi’n heddwas, gofalwr maeth, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr iechyd, neu mewn rôl arall – rheolwr neu reng flaen – gallai’r adnoddau hyn fod o ddefnydd wrth ystyried eich ffordd o feddwl, a deall amgylchiadau pobl (gan gynnwys pobl ifanc).

Risg

Beth yw eich barn ynghylch yr asesiadau risg? Ble mae eich ‘lens risg’ chi a’r prif beth sy’n peri pryder? Sut mae angen i ni feddwl am risg mewn ffordd wahanol? Sut mae pobl ifanc yn deall risg? Beth sy’n gyrru’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch risg? Sut gall cydweithio helpu wrth ymateb i bobl ifanc? Mae’r fideo byr hwn yn eich annog i feddwl am risg, rheoli risg ac ymatebion i risg.

Perthnasoedd

Beth mae ‘ymarfer yn seiliedig ar berthynas’ â pherson ifanc yn ei olygu i’ch rôl chi? A oes gan bobl ifanc ormod o berthnasoedd â gweithwyr proffesiynol i’w rheoli? A yw’n iawn os nad yw person ifanc yn dod ymlaen yn wych gyda chi? A yw perthnasoedd tymor byr yn her … i bwy? Mae’r fideo byr hwn yn eich gwahodd i feddwl am berthnasoedd ac ymarfer sy’n seiliedig ar berthynas gyda phobl ifanc.

Cefnogi pobl ifanc

Beth sy’n ‘effeithiol’ wrth gefnogi pobl ifanc? Sut brofiad allai pobl ifanc ei gael o gefnogaeth? A oes problemau gyda rhai o’r ymatebion i gamfanteisio? Beth allai fod yn ddull sy’n ‘canolbwyntio ar y plentyn’? Pa ganlyniadau a ddisgwylir i bobl ifanc? Mae’r fideo byr hwn yn eich gwahodd i feddwl am gefnogi pobl ifanc.

Iaith ystyriol

A oes gormod neu ddim digon o bwyslais yn cael ei roi ar bŵer iaith? Pa ‘eiriau gwaith’ sy’n cael eu defnyddio gyda phobl ifanc ac amdanyn nhw? Beth yw eu goblygiadau posibl? A yw’r hyn rydym yn ei ddweud yn llywio’r problemau rydym yn ymateb iddynt? Mae’r fideo byr hwn yn eich gwahodd i feddwl pam mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn rydym yn ei ddweud a’i ysgrifennu.

‘Mynd ar goll’?

‘… mae hynny i gyd yn wych ond sut mae hynny’n edrych yn ymarferol?’ Mae’r fideo byr hwn yn eich gwahodd i feddwl am ymatebion a chefnogaeth i bobl ifanc sy’n rhedeg i ffwrdd ac yn ‘mynd ar goll’, ac mae’n crynhoi rhywfaint o’r negeseuon o bynciau eraill a ystyriwyd.