Skip to content
cyt-logo-centre-cym

Yr ymchwil

Roedd ‘Cadw’n Ddiogel?’ yn brosiect ymchwil lle defnyddiwyd cymysgedd o ddulliau. Roedd yn cynnwys pobl ifanc, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr preswyl.
Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys dadansoddiad o ffeiliau achos awdurdodau lleol, a threuliwyd chwe wythnos mewn cartref preswyl i blant.

Nod

Nod gwreiddiol yr ymchwil oedd edrych ar ganlyniadau gwaith cefnogi pobl ifanc oedd mewn perygl o gael eu cam-drin yn rhywiol neu gamfanteisio rhywiol. Roeddem am ddeall sut y gwnaeth pobl ymateb, effeithiau’r camau a gymerwyd, yr heriau a’r cyfyng-gyngor sy’n gysylltiedig â diogelu i ofalwyr a gweithwyr proffesiynol, a’r profiad a gafodd pobl ifanc.

Canfyddiadau

Yr hyn a ddaeth i’r amlwg i ni oedd darlun oedd yn peri gofid am brofiadau’r bobl ifanc oedd yn gysylltiedig â’r gwasanaethau cymdeithasol. Gwelsom fod negeseuon allweddol am gefnogaeth, ymatebion, heriau a chyfyng-gyngor, yn ymwneud lawn cymaint â chyd-destun ehangach diogelu ac i bobl ifanc yn gyffredinol, ag yr oeddent ag ymatebion penodol i gamfanteisio ar blant yn rhywiol.

Pwy oedd yn cymryd rhan?

Cafodd yr ymchwil ei gwneud gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a CASCADE.

Cawsom ein cefnogi gan awdurdod lleol i allu cynnal yr ymchwil. Fe wnaethom gynnwys pobl ifanc o Voices from Care drwy grŵp llywio. Fe wnaethant ein helpu i ystyried cynlluniau ar gyfer yr ymchwil, moeseg a siarad am ein canfyddiadau. Fe wnaethant hefyd ein helpu i greu’r ffilm wedi’i hanimeiddio er mwyn rhannu negeseuon o’r ymchwil â phobl ifanc eraill. Fe wnaethom gynnwys pobl o bwys o feysydd plismona, iechyd, gwaith cymdeithasol, y trydydd sector, addysg a’r Llywodraeth trwy grŵp cynghori. Fe wnaethant ein helpu i ystyried canfyddiadau’r ymchwil a chyfrannu at ddatblygiad y deunyddiau ‘Ystyried eich ffordd o feddwl’. (Diolch eto, bawb!)

Ariannwyd yr ymchwil hon gan  Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.