Skip to content
cyt-logo-centre-cym

Cardiau a phosteri

Datblygwyd yr adnoddau hyn o brosiect ymchwil ‘Cadw’n Ddiogel?’.

Maent ar gyfer gofalwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol. Maent yn ffordd o rannu negeseuon allweddol o’r ymchwil, er mwyn annog pobl i feddwl am sut mae pobl ifanc yn cael eu diogelu a’u cefnogi, a sut i ymateb i gamfanteisio ac enghreifftiau eraill o gamdriniaeth a niwed. Maent hefyd yn rhannu negeseuon gan ofalwyr ac ystod o weithwyr proffesiynol am yr heriau a’r cyfyng-gyngor sy’n gysylltiedig â diogelu.
Mae hyn hefyd yn cynnwys yr heriau a allai fod yn gysylltiedig â chyd-destun a diwylliant ymarfer ehangach.

(Os hoffech chi gael y deunyddiau hyn ar ffurf copi caled, cysylltwch â ni.)

Cardiau ‘Ystyried eich ffordd o feddwl’

Beth yw eich barn ar rai o’r prif faterion ym maes diogelu pobl ifanc?

Mae’r gyfres hon o 10 cerdyn A5 yn ffordd o rannu canfyddiadau craidd a negeseuon allweddol o’r ymchwil, a’u nod yw eich helpu i ‘ystyried eich ffordd o feddwl’ am y materion hyn. Maent yn ategu’r adnoddau fideo ac wedi’u llunio i’w defnyddio fel adnodd myfyriol/trafod i ofalwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Gallwch eu defnyddio mewn parau, timau neu grwpiau bach, i hwyluso trafodaethau a dysgu ar y cyd, ond gellir eu defnyddio ar eu pen eu hunain hefyd. Darperir cerdyn sy’n rhoi arweiniad ac awgrymiadau ar gyfer cwestiynau i ysgogi myfyrdod a thrafodaeth.

Prif negeseuon

Beth allai rhai o’r ‘dangosyddion risg’ allweddol fod ar gyfer camfanteisio rhywiol?

Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud sy’n eu helpu? A oes problemau gydag ymatebion sy’n seiliedig ar risg?

Beth yw’r ffyrdd gwell o weithio gyda chydweithwyr a phobl ifanc?

Dyluniwyd y gyfres hon o gardiau post dwyieithog i rannu negeseuon allweddol o’r ymchwil trwy ddarluniau a negeseuon byr wedi’u hanelu at ofalwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Fe’u dyluniwyd i’w rhannu mewn lleoedd lle gallai pobl eu casglu, eu pinio ar fwrdd neu eu rhoi ar waliau. Maent yn cefnogi’r ethos o ‘ystyried eich ffordd o feddwl’ am arferion diogelu gyda phobl ifanc.

Taith Risg

Sut gallai pobl ifanc deimlo ynghylch pwyslais ar risg wrth ddiogelu?

Mae wedi’i ddylunio i fod yn boster A1 neu A2. Mae’n cyfleu’r negeseuon o ymchwil gyda phobl ifanc am yr argraff a allai gael ei chreu o ganlyniad i ganolbwyntio’n benodol ar risg wrth ddiogelu, a’r problemau a allai ddod yn sgîl y pwyslais hwn yn ymarferol.

Screenshot 2021-03-24 at 23.58.11

Poster ‘Cadw Systemau Diogel’

Os yw pawb yn cytuno ar yr hyn y dylid ei wneud ac ar y ffordd orau o ddiogelu a chefnogi pobl ifanc, pam mae hynny rhoi hynny ar waith yn dasg mor anodd…?

Mae wedi’i ddylunio i fod yn boster A1 neu A2. Mae’n cyflwyno’r negeseuon cyffredinol o’r ymchwil, gan ein hysgogi i feddwl am rai o’r gwahaniaethau rhwng system sy’n canolbwyntio ar risg ac sy’n osgoi risg, a system sy’n canolbwyntio ar les a ‘budd gorau’.

Welsh language 'Keeping Safe' systems poster