Skip to content
cyt-logo-centre-cym

Amdanom ni

Prif ymchwilydd

Dr Sophie Hallett

Prif ymchwilydd

Sophie oedd prif ymchwilydd prosiect ymchwil ‘Cadw’n Ddiogel?’ a hi sydd wedi datblygu holl ddeunyddiau ac adnoddau’r prosiect.

Mae Sophie yn academydd sy’n ymddiddori mewn archwilio ffyrdd y cymerir yn ganiataol o weld y byd. Mae ei gwaith yn ymwneud â phobl ifanc, gofal a chamfanteisio. Mae wrth ei bodd yn troi canfyddiadau ymchwil academaidd yn negeseuon ystyrlon i’r rhai sydd am eu clywed.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil neu’r deunyddiau hyn, cysylltwch â Sophie.

Darlunydd

Laura Sorvala

Darlunydd

Laura wnaeth greu’r holl ddelweddau yn neunyddiau ‘Cadw’n Ddiogel?’ a hi hefyd wnaeth animeiddio’r fideo.

Mae Laura yn ddarlunydd ar ei liwt ei hun sydd â’r gallu i droi syniadau yn ddarluniau deniadol. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio ar bynciau cymdeithasol ac amgylcheddol.

I weld rhagor o waith gan Laura, ewch i’w gwefan.